Adnoddau Cristingl

Beth am gynnal gwasanaeth Cristingl eleni? Mae cynnal gwasanaeth Cristingl yn hen draddodiad yn deillio o’r Almaen. Isod ceir yr holl adnoddau sydd angen arnoch i gynnal y gwasanaeth arbennig hwn yn nhymor yr Adfent eleni.

Beth yw Cristingl?
Mae dathlu Cristingl yn ffordd o rannu neges y ffydd Gristnogol. Golyga Cristingl ‘Goleuni Crist’ ac mae’n symbol o’r ffydd Gristnogol. Blynyddoedd maith yn ôl, gofynwyd i blant fynd â anrheg i’w osod wrth y crud yn yr Eglwys. Doedd gan un teulu ddim arian i brynu anrhegion ond roedden nhw’n benderfynol o fynd â rhywbeth.

Daeth hyd i oren y teimlent a fyddai’n addas, ond pan welsant ei fod wedi llwydo ychydig ar y top, roedden nhw’n siomedig. Fodd bynnag, fe wnaethant benderfynu tynnu’r darn wedi llwydo a gosod cannwyll ar ei ben i’w droi’n llusern. Gan feddwl ei fod yn edrych braidd yn ddiflas, tynnodd un o’r merched ddarn o ruban coch o’i gwallt a’i glymu o amgylch yr oren. Cawsant ychydig o drafferth ei osod yn ei le, felly, fe wnaethant ei roi yn sownd gyda pedwar ffon bach a gosod ychydig o rhesin ar eu blaenau.

Aethant â’r llusern i’r eglwys gan ofni beth fyddai ymateb y plant eraill. Fodd bynnag, roedd yr offeiriad yn hynod o falch o’u hanrheg a dywedodd wrth y gynulleidfa mor arbennig ydoedd oherwydd y rhesymau canlynol:

Mae’r oren yn grwn fel y byd.

Mae’r gannwyll yn dal a syth ac yn rhoi goleuni yn y tywyllwch fel cariad Duw.

Mae’r ruban yn mynd o amgylch y ‘byd’ ac yn symbol o waed Crist pan fu
farw drosom ar y groes.

Mae’r pedwar ffon yn pwyntio i gyfeiriadau gwahanol ac yn cynrychioli
Gogledd, De, Dwyrain a’r Gorllewin- ac hefyd yn cynrychioli y pedwar tymor.

Mae’r ffrwythau a’r cnau (ac ambell dro melysion!) yn cynrychioli
ffrwythau’r ddaear, wedi eu maethu gan yr haul a’r glaw.

Gwasanaeth Cristingl
Sesiwn Cristingl Llan Llanast
Gweithgareddau Crefft Cristingl
Taflenni lliwio a phosau Cristingl
Neges Cristingl - Gwir ystyr y Nadolig
Gwasanaeth Cristingl Gwyl Fair y Canhwyllau
Deunydd Hyrwyddo Gwasanaeth Cristingl
Gwybodaeth a chymorth ymarferol
Eden – Gwefan sy’n gwerthu canhwyllhau ar gyfer gwasanaeth Cristingl

Ffilmiau byr yn olrhain ychydig o hanes a chefndir y Cristingl

Sut i wneud Cristingl – ffilm fer gyda chyfarwyddiadau