
Oedfa gyflawn ar gyfer Gwyl Ddewi
Gwyl Ddewi – deunydd plant ac ieuenctid
3 myfyrdod ar gyfer Gwyl Ddewi
Cliciwch ar y doleni isod i lawrlwytho’r ffeiliau:
Gwasanaeth Gŵyl Ddewi beibl.net 1
Gwasanaeth Gŵyl Ddewi beibl.net 2
Naw Emyn Gŵyl Ddewi

Mae Aled Lewis Evans wedi poaratoi Gweddi Gŵyl Ddewi sydd i’w gweld ar wefan yr Annibynwyr.
Diolchwn ar Ŵyl Dewi am ein hetifeddiaeth amgylcheddol a diwylliannol, a’r modd y mae ein hetifeddiaeth Gristnogol yn plethu drwy’r cyfan. Cofiwn am rybudd Lewis Valentine nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb yng Nghymru os nad oedd hi’n wlad a oedd yn cofio am brif egwyddorion Crist, wedi eu gweithredu yn ein hymwneud â’n gilydd:
Heddwch ar ddaear lawr, gan ddechrau’n fy nghalon i,
Heddwch ar ddaear lawr, yr hedd a fwriadwyd i ni;
A Duw’n Dad trugarog, brodyr oll ym ni,
cerddwn oll gyda’n gilydd , mewn hedd a harmoni.
Sicrha ein bod yn trosglwyddo’r gwerthoedd gorau hyn ymlaen yng nghalonnau’r genhedlaeth nesaf, ‘fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl, y glendid a fu’. Helpa ni i ganfod dulliau newydd o wneud Iesu a neges Dewi yn berthnasol unwaith yn rhagor yng Nghymru’r ganrif newydd.
Boed i ni ganfod dulliau newydd i hyrwyddo Cymru, cyd-ddyn a Christ, sef arwyddair Urdd Gobaith Cymru, a chynsail y traddodiadau gorau yn ein cenedl. Par i ymwybyddiaeth newydd ddod i ieuenctid o gyfoesedd a pherthnasedd Iesu Grist y Person a’r Duw sy’n goron ar yr arwyddair.
Gofynnwyd y cwestiwn – beth fuasem â balchder ohono petai’r ddaear yn codi o dan ein traed unwaith eto yng Nghymru?
Balchder o sefyll dros y pethau gorau – dros Gymru’n gwlad, a balchder o ddeall eraill yn well a dysgu mwy am gyd-fyw a pharchu credoau eraill gan weld y tebygrwydd aml sydd ym mhrif themâu’r credoau oll.
Diolch am bob cred sy’n tystio i rym mwy na ni ein hunain, ond yn goron a phenllanw ar y cyfan i ninnau, diolch am Iesu. Daeth Iesu’n nes na neb arall i ddangos i ni sut i ymddwyn tuag at ein gilydd, ac i roi i’r byd dangnefedd.
Fel mudiad yr Urdd, mynnwn ninnau hefyd gadw’r Crist yn ein harwyddair bob dydd o’n hoes, gan fod ei Gariad a’i Ysbryd yn rhan annatod o’n cenedl.
Amen.
Aled Lewis Evans