Llyfrau ymchwilio thema (MAGC)

Mae’r gyfres hon yn anelu at gynorthwyo athrawon cynradd i ddysgu Addysg Grefyddol. Defnyddia gredoau, gwerthoedd a dysgeidiaeth y prif grefyddau a’u haddasu at weithgareddau ymarferol i gynorthwyo plant i ddysgu am, a dysgu oddi wrth, grefydd.

Mae’r gyfres yn cynnwys:

• Gweithgareddau i ddenu, ysgogi a rhoi sialens i ddisgyblion 4 — 11 oed
• Cymorth asesu a’r defnydd o TGCh
• Cysylltiadau gwe ag adnoddau ychwanegol

Cyfres o lyfrau wedi eu hysgrifennu gan dîm proffesiynol RE Today a nifer o awduron gwadd yw Ymchwilio i Thema. Mae’n gyfres i gefnogi Addysg Grefyddol mewn ysgolion cynradd. Mae ar gael i ysgolion ac unigolion drwy’r post unwaith y tymor, ac y mae hefyd ar gael i’r rhai sy’n dymuno ei brynu drwy Gatalog Adnoddau RE Today.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cydymffurfio â’r hyn a gyhoeddir yn y ddogfen Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol i ddysgwyr 3 — 19 oed yng Nghymru. Eisoes diwygiwyd rhai Meysydd Llafur yn unol â’r canllawiau hyn. Mae’r cyhoeddiad hwn yn adlewyrchu’r safonau, themâu, profiadau a chyfleoedd a argymhellir yn y Meysydd Llafur.

Ymchwilio i gwestiynnau dyrys
Ymchwilio i gwestiynnau dyrys (PDF)

Ymchwilio i Gredoau
Ymchwilio i Gredoau (PDF)
Ymchwilio i godau byw
Ymchwilio i godau byw (PDF)
Ymchwilio i Ddathliadau
Ymchwilio i Ddathliadau (PDF)
Iesu
Iesu (PDF)
Mannau Arbennig
Mannau Arbennig (PDF)
Y Nadolig
Y Nadolig (PDF)

Yn ôl i Hafan MAGC / Back to REMW Homepage