Tri Diwrnod – Ffilmiau’r Pasg

Dyma becyn o adnoddau gwych sydd wedi eu paratoi i gynorthwyo pobl i baratoi am y Pasg. Y darlledwr profiadol Martyn Geraint yn cyflwyno’r ffilmiau. Mae’r pecyn yn cynnwys 5 ffilm a 5 astudiaeth Feiblaidd.

Gellir ei ddefnyddio gyda grŵp yn eich capel/eglwys, ar yr aelwyd, neu mae modd i unigolion hefyd ei ddefnyddio i ddysgu mwy am y Pasg a’i ganlyniadau. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel maes i’r Ysgol Sul neu fel sail cyfres o bregethau ar gyfer yr wythnosau cyn y Pasg.

Os am wahodd eraill i ystyried neges y Pasg gyda chi, gallwch lawrlwytho taflenni bach i’w rhannu, neu boster y gellir ei olygu ac ychwanegu’r manylion e.e. amser a man cyfarfod.

Y gobaith, a’r weddi, yw y bydd y ffilmiau a’r astudiaethau yn rhoi cyfle i bobl ystyried o ddifri wir ystyr y Pasg ac arwyddocâd y digwyddiadau hyn iddyn nhw’n bersonol, a hynny ar sail yr hyn ddarllenwn ni yn y Beibl.

Un pwrpas oedd i ddigwyddiadau’r tri diwrnod – Duw yn darparu ffordd i bobl y byd gael eu hachub.

Un person allai gyflawni hynny – Iesu Grist, mab Duw.

Gallwch wylio’r ffilmiau isod:

Mae’r cyfan ar gael yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. I lawrlwytho’r ffilmiau cliciwch isod a bydd dolen ‘Download’ i weld dan y ffilmiau ar Vimeo.

1. Y Swper Olaf

2. Garth Gethsemane

3. Iesu, Peilat a Barabas

4. Y Croeshoeliad

5. Yr Atgyfodiad

Adnoddau cysylltiedig

Llawlyfr PDF sy’n cynnwys pump astudiaeth feiblaidd llawn

Poster Hyrwyddo (PDF)

Taflenni hyrwyddo (PDF)