Mae adnoddau Beiblaidd Y Gwir Ffordd yn gyfres o werslyfrau Beiblaidd (60 teitl i gyd) sy’n addas i blant 3-8 oed ac sy’n cynnwys: amlinelliad o wers gyflawn gyda neges a her, gemau a gweithgareddau, taflenni gwaith, gemau, tudalennau lliwio, crefftau, syniadau addoliad a gweddi a llyfryn straeon i’w hargraffu.
Maent ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, gan gynnwys ffilmiau byr 2-3 munud yn Gymraeg.
Mae Cyngor Ysgolion Sul yn ddiolchgar am y cyfle i gydweithio gyda gweinidogaeth Trueway Kids, o dan arweiniad Jon Dyer o Eglwys Hope Merthyr Tudful er mwyn cyrraedd eglwysi ac Ysgolion Sul Cymraeg. Mae’r gwersi hyn hefyd ar gael yn Saesneg a nifer o ieithoedd eraill o wefan www.truewaykids.com