O Medi 8, 2024 ymlaen byddwn yn cychwyn ar gyfres o wersi Beiblaidd a fydd ar gael yn rhad ac am ddim o wefan gair.cymru – a hynny er mwyn cefnogi gwaith plant ac ieuenctid yn ein heglwysi. Byddwn yn gwneud hynny trwy ddilyn cyfres werslyfrau Stori Duw, lle ceir deunydd ar gyfer rhai rhwng 3 a 18 oed.
Bydd y gyfres 44 gwers yn ein harwain drwy’r Beibl, a bydd digon o ddeunyddiau, gan gynnwys gwersi, storïau, gwaith crefft, taflenni gwaith, ffilmiau a gemau ar gael am ddim o’n gwefan. Mae modd prynu llyfrau gwersi i’r planr hefyd, a cyfrolau o werslyfrau a llyfrau lliwio.
Bydd yr adrannau isod yn cael eu datblygu o wythnos i wythnos o fis Medi ymlaen.
Cewch mwy o wybodaeth am y cynllun trwy glicio YMA.
Bydd y gyfres yma yn tyfu i fod yn 44 adran yn ystod 2024/25.