2 emyn newydd ar gyfer y Pasg
3 myfyrdod Gwener y Groglith
3 myfyrdod Sul y Blodau
3 myfyrdod Sul y Pasg
3 myfyrdod Y Grawys
Yr Atgyfodiad
Paratoi at y Pasg?
TRI DIWRNOD: Un pwrpas, un person.
Dyma becyn o adnoddau gwych sydd wedi eu paratoi i gynorthwyo pobl i baratoi am y Pasg. Y darlledwr profiadol Martyn Geraint yn cyflwyno’r ffilmiau.
Mae’r pecyn yn cynnwys 5 ffilm a 5 astudiaeth Feiblaidd.
Gellir ei ddefnyddio gyda grŵp yn eich capel/eglwys, ar yr aelwyd, neu mae modd i unigolion hefyd ei ddefnyddio i ddysgu mwy am y Pasg a’i ganlyniadau. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel maes i’r Ysgol Sul neu fel sail cyfres o bregethau ar gyfer yr wythnosau cyn y Pasg.
Os am wahodd eraill i ystyried neges y Pasg gyda chi, gallwch lawrlwytho taflenni bach i’w rhannu, neu boster y gellir ei olygu ac ychwanegu’r manylion e.e. amser a man cyfarfod.
Mae’r cyfan ar gael yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.
Nid yw’n bosib cynnwys popeth am y Pasg mewn 5 ffilm a 5 astudiaeth!
Rydym wedi dewis a dethol er mwyn canolbwyntio ar ddigwyddiadau mwyaf allweddol cyfnod y Pasg sef y Swper Olaf, Iesu yng Ngardd Gethsemane; yr achos llys o flaen Peilat, y Croeshoelio a’r Atgyfodiad.
Y gobaith, a’r weddi, yw y bydd y ffilmiau a’r astudiaethau yn rhoi cyfle i bobl ystyried o ddifri wir ystyr y Pasg ac arwyddocâd y digwyddiadau hyn iddyn nhw’n bersonol, a hynny ar sail yr hyn ddarllenwn ni yn y Beibl.
Un pwrpas oedd i ddigwyddiadau’r tri diwrnod – Duw yn darparu ffordd i bobl y byd gael eu hachub.
Un person allai gyflawni hynny – Iesu Grist, mab Duw.
Cliciwch yma i weld yr adnoddau ar gyfer eleni gan Cymorth Cristnogol.