Paratowyd adnoddau Beiblaidd Lift the Lid gan elusen Gristnogol yn Ne Cymru oedd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ar hyd a lled y de. Erbyn hyn mae’r elusen honno wedi dod i ben, ond mae Cyngor Ysgolion Sul wedi derbyn yr adnoddau a ddatblygwyd ganddynt, ac mae’r holl adnoddau hyn bellach ar gael ar y wefan gennym i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Mae’r adnoddau wedi eu creu ar gyfer cyflwyno hanes y Nadolig a’r Pasg o fewn ysgolion cynradd, ond gellid hefyd defnyddio’r deunydd mewn cyd-destun Ysgol Sul neu chlwb plant.