Mae USPG yn sefyll am United Society Partners in the Gospel. Mae’n asiantaeth genhadaeth Anglicanaidd sy’n gweithio ledled y byd gyda eglwysi a chymunedau i hyrwyddo cenhadaeth Duw, yn enwedig ym meysydd ffydd, perthnasoedd, cyfiawnder, a datblygu arweinyddiaeth.
Dyma rai adnoddau Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi gan USPG at eich defnydd:
Calon Dros Genhadaeth (PDF)
Canllaw astudio dros bump wythnos yn ystyried ffydd ar waith, yn dwyn ysbrydoliaeth o Eglwys Talaith Myanmar.

Credwn (PDF)
Cwrs Grawys sy’n ganllaw ar gyfer astudiaethau dros chwe sesiwn yn seiliedig ar Gredo Nicea, gyda myfyrdodau gan gyfeillion ar draws y Cymundeb Anglicanaidd.

Meini Bywiol, Gobaith Bywiol (PDF)
Cwrs Grawys pum-sesiwn yn archwilio diwinyddiaeth gyd-destunol.

Pwy yw fy nghymydog? (PDF)
Cwrs Grawys chwe-sesiwn yn gofyn: Beth yw bod yn gymydog da?

Goleuni yn y Tywyllwch (PDF)
Myfyrdodau Adfent gan gyfeillion ar draws y Cymundeb Anglicanaidd.