“Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.” (Ioan 1:5)
Erbyn hyn mae Gŵyl Calan Gaeaf wedi tyfu i fod yn un o’r prif wyliau sy’n cael eu dathlu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn, ac yn fasnachol yn werth bron cymaint â chyfnod y Pasg i siopau. Fe welwn archfarchnadoedd yn llawn o fygydau a phob math o geriach wedi eu creu i achosi ofn a dychryn. Mae’n Ŵyl Americanaidd sy’n pwysleisio’r tywyll a’r dychrynllyd, gan orfoleddu mewn ofn a marwolaeth. Mae’r dathliadau yng Nghymru wedi cynyddu yn rhyfeddol dros y degawd olaf, ac mae’n siŵr gen i y bydd plant yn galw heibio gyda’r ‘trick or treat’ a bydd llawer iawn o bartïon a disgos plant hefyd yn cael eu cynnal mewn pentrefi a threfi ledled Cymru. Fel eglwysi rydym yn naturiol yn bryderus am yr effaith negyddol mae hyn yn ei gael ar fywydau plant, ac yn poeni hefyd dros yr henoed sy’n cael eu dychryn gan yr ymwelwyr dieflig. Ein hymateb ar y cyfan felly yw anwybyddu’r holl beth. Ond cofiwn hefyd bod y cyfnod yma yn Ŵyl yr Holl Saint, a bod llawer y gallwn ei wneud fel unigolion ac eglwysi i atgoffa’n cymdeithas mai gwell o lawer yw byw yn y goleuni na chuddio yn y tywyllwch,
Rhannu ychydig o Newyddion Da
Fel unigolion, beth am i ni agor y drws i blant a fydd yn galw, gan rannu rhywbeth o newyddion da Iesu Grist gyda nhw. Fe fydd plant yn gobeithio cael fferins, ond yn ogystal â rhoi fferen neu ddau, beth am roi llyfryn Cristnogol, neu gomig Cristnogol iddynt yn ogystal. Mae gennym gomig yn dwyn y teitl Stori Fawr Duw, sydd ar gael i’w prynu am 50c yr un, sy’n pwysleisio bod Iesu yn Oleuni’r Byd. Neu mae modd cael copi o efengyl Marc beibl.net hefyd am £1 yr un er mwyn eu rhannu.
Parti Goleuni
Fel eglwysi, mae dau adnodd gwerthfawr ar gael, sy’n galluogi eglwysi i drefnu digwyddiadau ‘gwahanol’ ar adeg Calan Gaeaf. Mae Scripture Union wedi darparu pecyn o adnoddau er mwyn cynnal ‘Parti Goleuni’, sy’n llawn syniadau am gemau a gweithgareddau yn son am Iesu fel goleuni’r byd. Yn hytrach na dychryn plant a’u cyflwyno i bethau tywyll a dieflig dyma adnodd sy’n ein helpu i gyflwyno newyddion da. Ceir yn yr adnodd (Saesneg) nifer o syniadau da ar sut i gynnal noson hwyliog gyda phlant, yn llawn crefft, gemau a gweithgareddau, ac mae modd lawr lwytho’r pecyn am ddim o wefan www.scriptureunion.org.uk
Parti Pwmpen
Hefyd mae mudiad World Vision wedi paratoi pecyn i eglwysi (yn Saesneg eto ar hyn o bryd) yn llawn syniadau ar sut i gynnal Parti Pwmpen. Mae ‘na syniadau gwych ar sut i wneud llawer iawn o brojectau crefft allan o bwmpen, pob un ohonynt gyda neges gadarnhaol am gariad Iesu.
Ewch i pumpkinheroes.com i gael mwy o wybodaeth.
Phil Wyman sydd am gynorthwyo eglwysi Cymru i ‘achub Calan Gaeaf’
Erthygl a ymddangosodd yn Cristion 198
Mae Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia ond bellach yn Bugeilio eglwys yn Salem, Massachusetts o’r enw The Gathering.
Rwy’n bugeilio eglwys yn nhref Calan Gaeaf, y lle sy’n cael ei adnabod fel ‘Witch City’. Mae Salem, Massachusetts yn ddinas fach i’r gogledd o Boston sydd â hanes sy’n dyddio’n ôl i’r ymfudwyr cyntaf ddaeth i’r Byd Newydd o Ewrop. Ond mae enwogrwydd y ddinas go iawn yn dyddio’n ôl i’r cyfnod drwg-enwog o ‘erlid gwrachod’ a fu yno yn 1692-1693. Dienyddiwyd ugain o bobl yn yr hysteria, sydd wedi ei goffáu gan Arthur Miller yn ei ddrama enwog The Crucible sydd wedi ei drosi i’r Gymraeg ddwywaith, yn gyntaf gan John Gwilym Jones ac yn fwy diweddar gan Gareth Miles. Ers canol yr 1970au mae Salem wedi dod yn ganolfan ar gyfer twf Neo-Baganiaeth (Gwrachyddiaeth, Neo-dderwyddiaeth, Neo-siamaniaeth …), ac yn ganolbwynt rhyngwladol i ddathliadau Calan Gaeaf. Bellach nid diwrnod yn unig yw Calan Gaeaf yma, ond ceir mis cyfan o weithgareddau yn dod i’w huchafbwynt ar yr 31ain o Hydref. Bob blwyddyn bydd bron i filiwn o bobl yn ymweld â’n dinas sydd fel arall â dim ond 42,000 o drigolion.
Fel bugail, mae gen i berthynas unigryw gyda Chalan Gaeaf. Hyd yn oed cyn i mi symud i Salem i blannu eglwys yn 1999, roeddwn yn credu bod Calan Gaeaf yn un o wyliau gorau’r flwyddyn ar gyfer yr Efengyl. Byddai ein cymdogion a’u plant yn curo ar ein drws, a byddai fy mab yn gwneud yr un fath ar eu drysau nhw. Byddem ni’n arfer rhannu melysion gyda’n gilydd, yn chwerthin ac yn canmol y plant am eu gwisgoedd rhyfeddol. Roedd pobl yn dod allan o’u cregyn cymdeithasol, ac wrth fod ychydig yn fwy dwl a chwareus nag arfer, efallai’n bod yn fwy real nag arfer hefyd. Ers symud i Salem, nid noson o hwyl yw hi bellach, ond mis cyfan wedi’i neilltuo ar gyfer y ddefod chwareus gymdeithasol fawr yma.
Deuthum yn Gristion yn yr 1980au, ym merw y paranoia Americanaidd am lawer o bethau, gan gynnwys Calan Gaeaf. Fe’n rhybuddiwyd am lafnau eillio mewn afalau, neu felysion oedd wedi’u gwenwyno. Byddai pregethwyr yn taranu am wraidd a natur ocwlt yr ŵyl. Dywedwyd wrthym fod y Derwyddon yn aberthu pobl i’r duwiau paganaidd, bod y bwmpen gerfiedig a’r arfer o guro ar ddrysau yn gysylltiedig â defodau paganaidd hynafol a thywyll. Yn ddiweddarach dyma ddarganfod fod llawer o’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr anthropolegydd Margaret Murray yn ei llyfr dylanwadol Witchcult of Western Europe yn ddi-sail. Ond, roedd portread Murray wedi cydio a throi’n rhagfarn, ac o ganlyniad roedd safiad eglwysi yn erbyn Calan Gaeaf wedi dod yn un o linellau blaen y culture wars. Roedd yr hen Dderwyddon Cymreig yn cael eu demoneiddio fel rhan o’r ocwlt cythreulig, ac roedd ein gweithred ni o rannu melysion gyda’n cymdogion ddim yn cael ei weld mewn golau llawer gwell. Rhyddhaodd Salem, Massachusetts – ‘Witch City’ – fi o’r ofnau hyn.
Teimlais alwad i gymryd cyfrifoldeb dros y miliwn o ymwelwyr, fel pe bai angen i’n heglwys fach ni fod yn westywyr i’r byd. Rydym wedi bod yn darparu cerddoriaeth fyw ar strydoedd Salem bob penwythnos trwy’r mis, yn rhannu miloedd o gwpanau o goco poeth yn rhad ac am ddim, ac wedi creu gofod ar gyfer “Salm Readings” i bobl oedd yn chwilio am “Palm Readings”! Er mawr syndod i ni roedd torfeydd yn ciwio i gael profi Llyfr y Salmau ac i weddïo am iachâd, a dyma fu’n gweinidogaeth ni yma bob mis Hydref ers 17 mlynedd erbyn hyn. Bob blwyddyn, mae yna bobl yn dechrau bywyd newydd o ffydd yng Nghrist, a phob blwyddyn yn dychwelyd i chwilio amdanom ni. Os gall hyn ddigwydd yn Salem, rwy’n argyhoeddedig y gall ddigwydd unrhyw le yn y byd.
Pa ŵyl arall yn ystod y flwyddyn sy’n rhoi’r fath sylw i bynciau Beiblaidd diddorol? O Dduw i’r diafol, o angylion i gythreuliaid ac o’r Nef i Uffern – yn ystod gŵyl Calan Gaeaf nid yn unig fod hawl trafod y pynciau yma, ond mae pobl eisiau eu trafod. Fedra i ddim deall pam fod yr eglwys – ar yr union adeg o’r flwyddyn mae’r byd yn barod i ystyried a trafod y pynciau yma – yn ffoi o’r byd yn hytrach nag achub ar y cyfle i gael dialog. Dyna pam mod i felly eisiau achub gŵyl Calan Gaeaf, ei wneud yn ddiwrnod o hwyl cymunedol er mwyn dathlu’r themâu Beiblaidd sy’n codi. Mae’r ŵyl yn gwahodd creadigrwydd wrth roi cyfle i wisgo i fyny mewn ffordd sy’n portreadu rhai o olygfeydd apocalyptaidd y Beibl. Dyma ddiwrnod gorau’r flwyddyn ar gyfer mynegi’r Efengyl. Mae ein parodrwydd fel eglwys i fod yn lletygar ac ymroi i’r ŵyl yn agor drysau i gynnig gofod saff ac anfeirniadol i bobl drafod themâu Duw a’r diafol, Nef ac Uffern.
Pam mod i’n rhannu hyn oll gyda’m ffrindiau yng Nghymru? Rwy’n gobeithio y gallai hyn gynnig ffordd newydd i ddathlu Calan Gaeaf yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio y gellir achub gŵyl Calan Gaeaf a’i wneud yn ddiwrnod ar gyfer yr Efengyl yng Nghymru. Fel Americanwr o dras Cymreig sydd wedi dysgu rhywfaint o iaith fy nghyndadau, rwy’n caru Cymru’n fwy nag unrhyw le arall ar y ddaear. Rwy’n dyheu am gael gweld yr ysbryd cymunedol a’r lletygarwch nodweddiadol Gymreig yn cael eu haildanio trwy gymunedau Cymru. Rwyf am i Dderwyddon hynafol Cymru gael eu gweld eto am yr hyn oedd llawer ohonynt mewn gwirionedd sef seintiau Cristnogol cynnar nid ymarferwyr ocwlt hynafol oedd yn aberthu gwyryfon ar y bryniau. Tybed oes cyfle i eglwysi Cymru gofleidio Calan Gaeaf yn hytrach na’i ofni?
Efallai bod Calan Gaeaf yn gyfle i adrodd rhai o’r chwedlau Cymreig mewn gwisgoedd pwrpasol? Mae’r ŵyl yn gyfle i ymarfer haelioni rhyfeddol gyda’ch cymdogion a’u plant. Agorwch ddrysau eich busnes i’r gymuned, a threulio’r diwrnod mewn gwisg ffansi. Trefnwch ddathliad yn eich cymuned ar themâu bywyd a marwolaeth, straeon apocalyptaidd, a gwneud yn siŵr bod hwyl a mwynhad yn llinyn cyswllt trwy’r cyfan. Trowch Galan Gaeaf yn Noson Lawen gydag artistiaid a bandiau’n perfformio mewn gwisgoedd hynod. Trowch y capel yn ganolfan i’r gymuned a’r dathliad. Eto i gyd, mae yna ochr fwy sobr i ymdrin â phynciau bywyd a marwolaeth. Ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef colli ffrindiau a theulu yn ystod y flwyddyn, gallwch greu gofod i alaru a rhoi diolch i Dduw am fywydau’r rhai y maent yn eu caru.
Bron bob dydd, rwy’n atgoffa fy hun bod “heddiw’n ddiwrnod i’r ARGLWYDD — gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen!”(Salm 118: 24). Mae hyn yn cynnwys yr 31ain o Hydref a gall adfer y diwrnod o fod yn un mae’r Cristion yn ei ofni i fod yn un mae’n ei gofleidio fod yn gyfle i’r efengyl. Gall fod yn ddiwrnod sy’n dod â ni i gyd at ei gilydd, gall roi llais i bethau’r Ysbryd. Gall Calan Gaeaf fod yn ddiwrnod hardd sy’n llawn o ysbryd Duw. Fel eglwys ym merw dathliadau Calan Gaeaf trwy’r byd yn Salem, Massachusetts rydym ni wedi ceisio ennill rhyw dipyn o dir tywyll yn ôl i’r goleuni drwy fentro i’w chanol hi ac nid wrth ffoi oddi wrthi.