Ffilmiau Pasg

Rhestr chwarae YouTube
Dyma restr chwarae YouTube yn rhannu nifer o ffilmiau Pasg Cymraeg. Rhai yn addas i blant, eraill yn addas fel myfyrdod i oedolion:

Rhestr Chwarae YouTube: Pasg.

Rhai ffilmiau Pasg i'r Plant


Rhai ffilmiau Pasg i'r Oedolion


Adnodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru a beibl.net
Mae TRI DIWRNOD yn adnodd gwych ar gyfer y Pasg. Y cyfan ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.
Paratoi at y Pasg?

TRI DIWRNOD: Un pwrpas, un person.

Dyma becyn o adnoddau gwych sydd wedi eu paratoi i gynorthwyo pobl i baratoi am y Pasg. Y darlledwr profiadol Martyn Geraint yn cyflwyno’r ffilmiau.

Mae’r pecyn yn cynnwys 5 ffilm a 5 astudiaeth Feiblaidd.

Gellir ei ddefnyddio gyda grŵp yn eich capel/eglwys, ar yr aelwyd, neu mae modd i unigolion hefyd ei ddefnyddio i ddysgu mwy am y Pasg a’i ganlyniadau. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel maes i’r Ysgol Sul neu fel sail cyfres o bregethau ar gyfer yr wythnosau cyn y Pasg.

Os am wahodd eraill i ystyried neges y Pasg gyda chi, gallwch lawrlwytho taflenni bach i’w rhannu, neu boster y gellir ei olygu ac ychwanegu’r manylion e.e. amser a man cyfarfod.

Mae’r cyfan ar gael yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. I lawrlwytho’r ffilmiau cliciwch isod a bydd dolen ‘Download’ i weld dan y ffilmiau ar Vimeo.

1. Y Swper Olaf

2. Garth Gethsemane

3. Iesu, Peilat a Barabas

4. Y Croeshoeliad

5. Yr Atgyfodiad

Adnoddau cysylltiedig
Llawlyfr PDF sy’n cynnwys pump astudiaeth feiblaidd llawn
Poster Hyrwyddo (PDF)
Taflenni hyrwyddo (PDF)

Gweddïau ar ffilm ar gyfer y Grawys a'r Pasg
Casgliad o weddïau ar ffilm ar gyfer y Grawys a’r Pasg wedi eu cynhyrchu gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

I lawrlwytho’r ffilm i’ch cyfrifiadur de-gliciwch ar y ddolen dan y ffilm a dewis “Save as”/”Save link as” ayb…


Gweddi Pasg (Lawrlwytho)


Gweddïau’r Grawys 1 (Lawrlwytho)

Gweddïau’r Grawys 2 (Lawrlwytho)

Gweddïau’r Grawys 3 (Lawrlwytho)

Gweddïau’r Grawys 4 (Lawrlwytho)

Gweddïau’r Grawys 5 (Lawrlwytho)

Gweddïau’r Grawys 6 (Lawrlwytho)

Gweddiau’r Grawys 7 (Lawrlwytho)