Llyfrau Prydwen Elfed-Owens

Dr Prydwen Elfed-Owens

Mae Dr Prydwen Elfed-Owens wedi treulio ei gyrfa ym myd addysg yng Nghymru, ac mae ei gwaith yn adlewyrchu ei diddordeb dwfn mewn pobl, ffydd, diwylliant a chymdeithas. Wedi ei magu mewn teulu Methodistaidd Cymraeg, yn ferch i’r Parch. Huw D. Williams, mae ei ffydd a’i phrofiadau personol wedi dylanwadu’n gryf ar ei gwaith.

Yn y cyfrolau isod mae’n cyfuno atgofion personol, ymchwil a lleisiau pobl eraill i gofnodi profiadau ac agweddau ar fywyd Cymru. Mae’r pedair cyfrol ar gael yma i’w darllen yn rhad ac am ddim ar ffurf PDF.


Clawr Gwawr wedi Hirnos

Gwawr wedi Hirnos

Cyfrol sy’n plethu profiadau personol Prydwen Elfed-Owens â hanesion nifer o gyfranwyr am wynebu cyfnodau tywyll, colled, salwch a heriau bywyd. O brofiadau’r pandemig i straeon am ffydd, iechyd meddwl a galar, thema ganolog y gyfrol yw’r posibilrwydd o weld gwawr ar ôl hirnos a dod o hyd i obaith yng nghanol anhawster.

Darllen y gyfrol →


Clawr Malwan Bach fel Fi

‘Malwan Bach fel Fi…’ …yn Cloddio am Aur

Golwg eang ar fywyd a chenhadaeth Eglwysi Cymru heddiw, wedi ei seilio ar brofiadau a chyfweliadau ag ystod eang o Gristnogion. Trafodir bugeilio, cenhadu, technoleg, arweinyddiaeth a dyfodol yr eglwys, gan chwilio am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn y gall eglwysi ei ddysgu wrth wynebu heriau’r oes.

Darllen y gyfrol →


Clawr Na Ad Fi'n Angof

Na Ad Fi’n Angof

Cyfrol bersonol ac ymarferol am ddementia, wedi ei llunio yng ngoleuni profiad yr awdur o ofalu am ei gŵr. Mae’n dod â phrofiadau gofalwyr ynghyd â chyfraniadau arbenigwyr, gan drafod diagnosis, gofal, hunanofal, y gyfraith, cof, cerddoriaeth a ffyrdd o gynnal urddas ac ansawdd bywyd.

Darllen y gyfrol →


Clawr Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Hanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis, a sefydlwyd i hyrwyddo a dathlu canu gwerin Cymru, ynghyd â hanes y bobl fu’n gysylltiedig â hi. Mae’r gyfrol yn olrhain hanes yr enillwyr ac yn adrodd hanes Lady Ruth Herbert Lewis ei hun, gan daflu goleuni ar ran bwysig o hanes cerddoriaeth, diwylliant a’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru.

Darllen y gyfrol →