Llunio Gwers Ysgol Sul
Adran newydd ac arbrofol
Mae’r adran newydd ac arbrofol hon o’n gwefan yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i chwilio drwy ein harchif helaeth o adnoddau er mwyn helpu i lunio gwersi Ysgol Sul. Gall arbed cryn dipyn o amser ac ymdrech, ond gan nad yw’r dechnoleg yn berffaith, gofynnwn ichi ddarllen, gwirio a golygu’r deunydd yn ofalus ac yn weddigar cyn ei ddefnyddio gyda’ch dosbarth neu’ch clwb.
Yn wahanol i beiriannau Deallusrwydd Artiffisial cyffredinol, mae’r system hon wedi’i chyfyngu i chwilio ac echdynnu deunydd o archif adnoddau Cyngor Ysgolion Sul Cymru yn unig. Mae hynny’n golygu bod yr atebion yn seiliedig ar ein hadnoddau ni, yn hytrach nag ar wybodaeth ehangach o’r rhyngrwyd.
Llunio Gwers Ysgol Sul










